Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Gillian Body, Assistant Auditor General, Wales Audit Office Matthew Coe, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Sarah Beasley (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 3,4, 5 a 7.
3. Ystyried Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei gylch gorchwyl a’i ddull o graffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a chytunodd i lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan.
4. Ystyried yr adroddiad drafft 'Rheoli Grantiau yng Nghymru'
4.1 Trafododd y Pwyllgor newidiadau i’w adroddiad drafft ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’, a fyddai’n cael ei gyhoeddi’n fuan, a chytunodd ar y newidiadau hynny.
5. Trafod yr adroddiad drafft 'Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru'
5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad i’r ymchwiliad, ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’, a fyddai’n cael ei ystyried ymhellach dros e-bost, a chytunodd ar yr adroddiad.
6. Sesiwn Friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd'
6.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (ynghyd â Gillian Body, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, a Matthew Coe, Rheolwr Archwilio Ariannol) i roi briff i’r Pwyllgor ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cyllid Iechyd.’
6.2 Cyflwynodd yr Archwilydd Cyffredinol friff i’r Pwyllgor ar y prif faterion sy’n codi o’i adroddiad ac atebodd gwestiynau’r Aelodau.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd yr Archwilydd Cyffredinol i ddarparu:
· Nodyn yn dweud pryd cafodd Byrddau Iechyd Lleol gynnig broceriaeth gan Lywodraeth Cymru.
7. Opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd'
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i Gyllid Iechyd.
8. Papurau i'w nodi
8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar Safon Ansawdd Tai Cymru.
8.2 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 10 Gorffennaf 2012.
Trawsgrifiad